Holly Davey
 
English
Elfyn Lewis Richard Powell
Croeso
Manylion y Cynllun
Rhestr o'r Orielau
Cysylltu â Ni
Artistiaid a ddefnyddiwyd: Ruth Harries, Holly Davey, Elfyn Lewis a Richard Powell
Manylion y Cynllun

• Mae’r credyd di-log* yn mynd o £50 i uchafswm benthyciad o £2,000.
• Dim ond 10% o flaendal sy’n rhaid ei dalu i ddechrau.
• Mae talu £22.50 y mis dros gyfnod o 10 mis yn talu am ddarn gwreiddiol o gelf sy’n werth £250.
• Gallwch ddefnyddio’r credyd i’ch cynorthwyo i brynu gwaith celf a chrefft gwreiddiol gan artistiaid sydd yn
dal yn fyw. Bydd eich arian yn cyfrannu’n sylweddol tuag at gefnogi doniau creadigol yng Nghymru.
• Mae’r cynllun ar gael mewn dros 60 oriel yng Nghymru.
• Gallwch brynu sawl darn o waith celf o sawl oriel wahanol yng Nghymru hyd at uchafswm trothwy credyd o £2,000.
• Mae benthyciadau ar gael i drigolion y Deyrnas Unedig sy’n ddeunaw oed a throsodd sydd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sy’n gweithredu debyd uniongyrchol. Cymeradwyir benthyciad gan y cynllun mewn 7-10 o ddyddiau fel rheol.


* APR Nodweddiadol o 0%

Amodau Aelodaeth Cynllun Casglu

Trefn Gwyno Gweithgaredd Credyd Y Treuliwyr